Outdoors Thinking

Day 1 Pontipridd April23 April24 33

Tystysgrif Bod y Tu Allan – Lefel 3

I archebu lle ar gwrs Cymraeg cysylltwch ag eunice.jones@meithrin.cymru

Book a place

Mae’r tudalen we hwn yn rhoi trosolwg o sut mae’r dair modiwl yn gweithio gyda’i gilydd i ffurfio’r dystysgrif lawn, a sut mae hi wedi cael ei dylunio i annog datblygu darpariaeth y tu allan sy’n manteisio i’r eithaf ar fod y tu allan. Mae hefyd yn egluro sut allwch chi ddatblygu drwy’r cymhwyster yn y ffordd sy’n gweithio orau i chi, gan fanteisio i’r eithaf ar fuddion i’ch lleoliad, eich cydweithwyr, eich plant a’ch teuluoedd.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Mae’r cwrs wedi cael ei ddylunio’n benodol i ymestyn dealltwriaeth ac arbenigedd unrhyw un yn y sector blynyddoedd cynnar sydd ag o leiaf 3 blynedd o brofiad o weithio gyda phlant ifanc rhwng 2 a 6 oed. Bydd angen i chi feddu ar wybodaeth a dealltwriaeth cadarn o ddatblygiad plentyn ac arferion y blynyddoedd cynnar, ynghyd â diddordeb brwd mewn gweithio y tu allan.

Er mwyn cyflawni’r cymhwyster, bydd angen i chi allu gweithredu newidiadau mewn lleoliad y blynyddoedd cynnar; felly, bydd angen i chi fod yn gweithio fel gwarchodwr plant, bod mewn swydd ymgynghorol neu’n gweithio neu’n gwirfoddoli mewn lleoliad y blynyddoedd cynnar neu ddosbarth y blynyddoedd cynnar mewn ysgol.

Terfynau Amser?

Gall y cynllun amser am sut y cyflwynir y cwrs amrywio’n dibynnu ar bwy sy’n comisiynu’r cwrs.

Byddai enghraifft o derfynau amser safonol ar gyfer cyflwyno’r wobr lawn yn golygu un diwrnod hyfforddiant y mis, ac yna dychwelyd i’ch sefydliad i weithredu’r wybodaeth a’r profiad newydd a gafwyd Drwy hyn, byddech yn cyflawni modiwl bob 4 mis, ac yn cwblhau’r dystysgrif gyfan dros 12 mis.

Sut mae’n gweithio?

Wrth ddefnyddio dull hyfforddi, mae’r cwrs yn eich cefnogi chi i ddatblygu sail gadarn o ddealltwriaeth a chymhwysedd yn raddol, mewn ffordd tymor hir, cynyddol a fesul haenau. Mae’r strwythur cam wrth gam yn gadael i chi ddatblygu eich arbenigedd eich hun, yn raddol, drwy’r flwyddyn, gan ddarparu dull araf, rheolaidd a hylaw.

Gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau drwy brofiad a sesiynau trafod, dadansoddi ac astudiaeth wedi’i dywys, byddwch yn cael eich cefnogi i fynd i’r afael â phethau eich hun. Bydd arsylwi, gweithredu a gwerthuso gofod y tu allan eich lleoliad yn feirniadol, yn sicrhau bod dealltwriaeth newydd yn dod yn rhan o’ch arferion eich hun, a’u bod yn cael eu cynnal. Ein nod yw bod yr hyfforddiant hwn yn gweithio i bawb, ac y bydd yn cynnwys datblygu darpariaeth ac arferion y tu allan eich lleoliad eich hun.

Bydd dilyn y Dystysgrif Bod y Tu Allan yn:
  • Datblygu eich dealltwriaeth a’ch ymrwymiad i’r amgylchedd y tu allan fel amgylchedd pwerus ar gyfer dysgu yn y blynyddoedd cynnar.
  • Meithrin y sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer cynnal amgylchedd y tu allan sydd ar gael yn barhaus sydd wir yn meithrin natur arbennig bod y tu allan i fodloni sut mae plant ifanc yn gallu teimlo’n dda, dysgu a datblygu orau.
  • Eich cefnogi i deimlo’n gyfforddus, yn hyderus ac yn gymwys i weithio yn amgylchedd y tu allan eich lleoliad.
  • Eich grymuso i weithredu addysgeg y blynyddoedd cynnar yn effeithiol yn eich lleoliad gwaith.
  • Eich helpu i greu darpariaeth hynod gyfoethog y tu allan sy’n llwyddo i ddarparu profiadau dysgu cyffrous i’ch plant sy’n bodloni’r ffordd maen nhw wedi cael eu dylunio i ddysgu orau.
  • Eich galluogi chi i ddarparu amgylchedd y tu allan sy’n gweithio’n dda drwy gydol y flwyddyn, fel bod plant a staff fel ei gilydd wrth eu boddau y tu allan am lawer o amser bob diwrnod.
Beth yw pwrpas y cwrs?

Bwriad - pwrpas y cymhwyster yw eich arwain chi i:

  • ddeall datblygiad plant ac addysgeg y tu allan mewn dyfnder, gan gryfhau eich gallu i gefnogi dysgu a datblygu y tu allan;
  • creu amgylchedd cryf, sy’n galluogi amgylchedd dysgu y tu allan, sy’n cyfateb i sut mae plant ifanc yn dysgu gyda natur arbennig y tu allan.

Gweithredu - yn ystod y cwrs, byddwch yn:

  • datblygu darpariaeth sy’n darparu rhestr hirfaith o bosibiliadau ar gyfer dysgu drwy gyfuniad o brofiadau a chwarae go iawn.
  • datblygu addysgeg ar gyfer manteisio i’r eithaf ar natur unigryw a gwahanol y tu allan i alluogi plant ifanc i ddysgu;
  • datrys materion sefydliadol a rheoli i fanteisio i’r eithaf ar eich darpariaeth y tu allan.

Effaith - erbyn diwedd y flwyddyn:

  • byddwch yn gyfforddus, yn hyderus ac yn gymwys i weithio gyda phopeth sy’n cael ei gynnig gan yr amgylchedd y tu allan;
  • bydd gennych amgylchedd gyfoethog a phwerus y tu allan sy’n effeithiol ac yn llawn mwynhad i bawb, enghraifft wych i eraill;
  • byddwch yn gweld plant yn cymryd rhan yn frwdfrydig mewn dysgu gweithgar, ymarferol, cyfannol gyda manylder, gan ysgogi meddwl beirniadol a chreadigol ym mhob agwedd ar eich cwricwlwm; byddwch wedi meithrin iechyd, lles, hunanreoli a hyder bob plentyn fel dysgwr
Beth sy’n gwneud y Dystysgrif mewn Arferion y Tu Allan yn unigryw?


Mae’r cymhwyster yn canolbwyntio ar gynnwys, mae’n ymgorffori dysgu’n weithgar ac yn cefnogi cydweithio a datblygu’n raddol. Mae’r cwrs yn:

  • Canolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar o blentyndod (2-5) a datblygiad plentyn a lles.
  • Canolbwyntio ar ddarpariaeth y tu allan ar y safle a darpariaeth barhaus sy’n manteisio i’r eithaf ar nodweddion a natur arbennig yr amgylchedd y tu allan ar gyfer dysgu.
  • Datblygu’r lleoliad ei hun fel rhan hanfodol o’r cwrs, sy’n golygu ei fod yn gwella darpariaeth, sy’n gweithredu’n dda drwy gydol y flwyddyn, yn barhaus.
  • Cefnogi cyfranogwyr i weithio gyda’u cwricwlwm yng nghyd-destun y tu allan.
  • Meddu ar broses galluogi a grymuso, yn gweithio ar gysur, hyder, gallu a’r gallu i feithrin eraill.
  • Canolbwyntio ar addysgeg effeithiol y blynyddoedd cynnar sy’n seiliedig ar ymchwil ac sy’n cynnwys theori gydag arferion.
  • Cael ei ddylunio’n ofalus gyda’r bwriad penodol o sicrhau bod yr hyn a wneir yn yr hyfforddiant yn cael ei weithredu, gan roi sylw penodol i ganfyddiadau ymchwil am yr hyn sy’n gwneud Datblygiad Proffesiynol Parhaus effeithiol.
  • Canolbwyntio ar ddatblygiad personol y cyfranogwr drwy hyfforddiant sy’n seiliedig ar arddull hyfforddi a gweithredu, gan gynnwys datblygu’r tîm o staff y maen nhw’n gweithio gyda nhw.
  • Darparu cymhwyster proffesiynol i’r cyfranogwr fel arbenigwr y tu allan.
  • Paratoi’r cyfranogwr ar gyfer amrywiaeth cynyddol o gyfleoedd hyfforddiant a chymwysterau, sy’n ehangu ar gyd-destun y tu allan (fel Ysgol Goedwig) a/neu gynyddu’r lefel academaidd.
Canlyniadau: Gwneud gwahaniaeth i ymarferwyr a phlant

Mae’r Dystysgrif Bod y Tu Allan gan Outdoors Thinking yn meddu ar ddull gweithredu galluogol gyda’r effeithiau a’r canlyniadau parhaus a ganlyn i ymarferwyr, rheolwyr a lleoliadau:

  • bod yn gyfforddus ac yn hyderus am weithio’r tu allan;
  • bod yn gymwys i allu gweld potensial a gweithio gyda’r hyn sy’n cael ei gynnig gan yr amgylchedd y tu allan;
  • gwybod sut i fanteisio i’r eithaf ar ei natur arbennig;
  • gwybod sut i gefnogi dysgu drwy chwarae’r tu allan orau;
  • dod yn rhagweithiol wrth wella’r ddarpariaeth, yr arfer a’r rheolaeth o’r amgylchedd y tu allan ar gyfer lles, chwarae, dysgu a datblygiad;
  • perthyn i rwydweithiau cefnogi cyfoedion i gynnal datblygiadau ar ôl hyfforddiant a pharhau â’r daith;
  • cymryd camau cyntaf hanfodol a chadarn wrth barhau â hyfforddiant a chymwysterau’r Ysgol Goedwig.