Outdoors Thinking

Day 1 Pontipridd April23 April24 28
Modiwl 3

Tystysgrif Bod y Tu Allan – Lefel 3

Gwneud i ddarpariaeth y tu allan lwyddo

I archebu lle ar gwrs Cymraeg cysylltwch ag eunice.jones@meithrin.cymru

Modiwl 3: Gwneud i ddarpariaeth y tu allan lwyddo

Fe wnaiff darpariaeth wych a chyfleoedd cyffrous weithio’n effeithiol pan fo darpariaeth ac arferion y tu allan yn cael eu rheoli’n dda gan bawb sydd ynghlwm â’r gwaith. Er mwyn sicrhau bod dysgu y tu allan yn llawn mwynhad ac yn gyffrous i bawb - a’i fod yn gynaliadwy yn y tymor hir, mae angen rhoi sylw i amrywiaeth o agweddau trefnu allweddol sydd angen cyswllt gyda’r staff, y plant a’u rhieni / gofalwyr. Drwy ganolbwyntio ar drefnu a rheoli, mae’r trydydd cam hwn o’r wobr yn eich cefnogi chi i fanteisio i’r eithaf ar ddatblygiadau yn y ddau fodiwl cynt ac yn parhau i ddatgloi potensial ardderchog o ddysgu y tu allan.

Galluogi’r ymarferwr i fod yn hyderus wrth ymarfer a mynegi swyddogaeth darpariaeth y tu allan yn eu lleoliad.

Datblygu gwybodaeth, arferion a chymhwysedd i fanteisio i’r eithaf ar ran y tu allan o’r amgylchedd dysgu cynnar.

N/A

Mae’r adran hon o’r cymhwyster yn ychwanegu haen bellach a hanfodol, drwy fynd i’r afael â materion sefydliadol a rheoli allweddol sy’n golygu bod darpariaeth y tu allan yn gweithio’n fwyaf llwyddiannus, gan wneud dysgu y tu allan yn llawn mwynhad ac yn wych ar gyfer plant ac oedolion - ac yn lle y mae pawb eisiau mynd iddo am gyfnodau hir bob dydd.

Gall deimlo fel bod pob math o rwystrau yn mynd ar eich traws rhag cyflawni’r ddarpariaeth y tu allan y byddech chi wrth eich boddau yn ei rhannu gyda’ch plant. Mae’n rhaid i nifer o leoliadau’r blynyddoedd cynnar weithio ar faterion fel mynediad anodd i’r tu allan, lleoliadau cyfyngedig neu heb ysbrydoliaeth y tu allan, diffyg mannau storio, arian cyfyngedig ar gyfer dylunio, adnoddau, hyfforddiant, dillad y tu allan ac yn y blaen, staff sy’n megis cychwyn eu taith eu hunain o weithio’n dda gyda’r amgylchedd y tu allan, a rhieni /gofalwyr nad ydynt eto’n cytuno’n llwyr gyda’ch dyheadau a’r bwriad sydd gennych o ran dysgu y tu allan.

5

Beth sydd ei angen i chi ei wneud i ddatgloi’r tirwedd gwych a llawn ysgogiad o bosibiliadau y mae’r amgylchedd y tu allan yn gallu ei ddarparu i’ch plant? Wrth ddefnyddio’r ymwybyddiaeth a a’r farn y gwnaethoch eu datblygu yn nau gam blaenorol y cwrs, yn y modiwl hwn byddwch yn cael eich arwain i ddefnyddio meddwl cadarnhaol a chamau gweithredu adeiladol i weithio ar y prif rwystrau yn eich lleoliad eich hun.

Balancing outdoors

Cael profiadau.

Gan weithio mewn grwpiau bychan rhyngweithiol y tu allan, bydd bob sesiwn hyfforddiant hanner diwrnod yn archwilio ac yn ymdrin â dau o’r prif faterion a phroblemau sy’n bodoli wrth weithredu darpariaeth y tu allan y mae darparwyr yn dod ar eu traws yn aml.

Bydd gennych ddigon o amser i ystyried y sefyllfa bresennol yn eich lleoliad, myfyrio gyda’ch gilydd a datrys problemau gydag ymarferwyr eraill sy’n wynebu sefyllfaoedd tebyg. Bydd y sesiynau hyn yn darparu ffyrdd newydd o feddwl a’r rhesymeg dros wneud penderfyniadau ymarferol sy’n llwyddiannus. Byddwch yn magu hyder wrth reoli elfennau gweithredol darpariaeth ac arferion fel eich bod yn rhoi’r cyfraniad gorau posib ac yn ychwanegu at lwyddiant eich chwarae y tu allan dyddiol.

Leaves and leaf collecting

Gan ychwanegu trydedd rhan y triongl Amgylchedd-Plentyn-Oedolyn, mae Modiwl 3 ‘Gwneud i ddarpariaeth y tu allan lwyddo’ yn rhoi sylw i’r swyddogaethau y mae oedolion yn eu chwarae wrth sefydlu, gweithredu a chynnal amgylchedd rymusol sy’n bodloni’r hyn y mae plant ifanc eisiau ei ddarganfod, a’u cefnogi yn y ffyrdd mwyaf buddiol i sicrhau eu harchwiliadau.

Byddwn yn gweithredu dull sy’n seiliedig ar ddatrysiadau i ymdrin â’r materion a’r rhwystrau cyffredin wrth fynd â’r dysgu y tu allan drwy weithio ar yr elfennau sydd â’r budd mwyaf wrth wneud dysgu drwy chwarae y tu allan weithio yn y ffordd y dylai wneud.

N/A

Mewn pedair uned o sesiynau manwl, drwy brofiad, byddwch yn gallu nodi anawsterau, ac archwilio datrysiadau i glystyrau o bryderon perthnasol sy’n cael eu rhannu gyda’ch cydweithwyr ar y cwrs. Bydd gweithio’n ymarferol mewn grwpiau anffurfiol, bach, yn golygu bod posib gwerthuso eich arferion cyfredol yn onest a byddwch yn cael cefnogaeth ymarferol, i ddatrys problemau,

Ar gyfer pob un o’r materion hyn, byddwch yn cael eich cefnogi i ymchwilio i ddatrysiadau a strategaethau sydd wedi cael eu profi i weithio’n dda ar gyfer dysgu drwy chwarae y tu allan fel ei fod yn llawn mwynhad ac yn effeithiol i’r plant a’r ymarferwyr.

Mud Kitchen Vanessa Lloyd handwashing

Edrych yn fwy manwl

Ar y cyd â’r sesiynau rhyngweithiol, mae sesiynau trafod ‘edrych yn fwy manwl’ yn archwilio datrysiadau ehangach ar gyfer goresgyn rhwystrau ac anawsterau.

Yn ystod y sesiynau hyn, byddwch wedi llunio rhai manylion am y materion yr ydych chi’n eu hwynebu yn eich lleoliad ar hyn o bryd, ac wedi rhannu ac archwilio rhai datrysiadau ymarferol yn eich grŵp. Mae pob un o’r sesiynau ymarferol hyn yn sail i gyfnodau cynllunio cysylltiedig sy’n arwain at ddadansoddiad a chynllun gweithredu mwy manwl ar gyfer newidiadau ar gyfer y lleoliad cyfan.

Mae’r sesiynau’n cael eu hwyluso gan diwtor sydd â phrofiad helaeth o wynebu heriau cyffredin a rheoli darpariaeth y tu allan sy’n gweithredu’n dda. Bydd y sesiynau hyn mewn grŵp mwy yn mynd â’r gwaith meddwl, rhannu datrysiadau a datrys problemau ymhellach fyth fel y gallwch chi ffurfio’r camau gweithredu cywir ar gyfer eich sefyllfa unigryw chi.

Outdoor Storage in setting

Rhoi’r Gwaith ar Waith

Mae’r asesiad ar gyfer Modiwl 3 wedi’i ddylunio i arwain gwelliannau gweithredol yn eich darpariaeth a’ch arferion y tu allan drwy ddull gweithredu sy’n seiliedig ar ymchwil a gweithredu. Ar ôl nodi tair agwedd allweddol i’w datblygu, bydd gofyn i chi ddangos y newidiadau a wnaethoch, ynghyd ag egluro’r rhesymeg dros eich camau a gwerthuso’r effaith ydych chi’n deimlo mae’r rhain wedi’i gael ar eich lleoliad a’r tîm cyfan.

Mae’r elfen hon o’r Dystysgrif Bod y Tu Allan wedi’i dylunio i’ch helpu chi i ddod o hyd i’r agweddau sefydliadaol o ddarpariaeth ac arferion y tu allan eich lleoliad sy’n cael y dylanwad mwyaf ar ba mor dda y mae pethau’n gweithio a faint o fwynhad mae pawb yn ei gael i fod y tu allan. Mae’r cam hwn yn hynod bwysig i sicrhau bod dealltwriaeth newydd yn cael ei roi ar waith, mewn ffordd effeithiol sy’n gwella profiad pawb yn y tymor hir.

Water pouring