Outdoors Thinking

Lying on the rocks
Favicon
Modiwl 1

Tystysgrif Bod y Tu Allan – Lefel 3

Creu profiadau cyfoethog y tu allan

I archebu lle ar gwrs Cymraeg cysylltwch ag eunice.jones@meithrin.cymru

Modiwl 1: Creu profiadau cyfoethog y tu allan

Mae’r modiwl hwn yn ymwneud â chreu amgylchedd y tu allan sy’n darparu tirwedd gyfoethog o bosibiliadau ysgogol, ystyrlon a gwerth chweil sy’n manteisio ar yr hyn sy’n cael ei gynnig yn benodol ar gyfer plant ifanc wrth fod y tu allan, ac sy’n anodd neu’n amhosib i’w ddarparu y tu mewn. Byddwn yn edrych yn fanwl ar botensial anhygoel ‘cynhwysion arbennig’ darpariaeth tu allan ardderchog a datblygu’r rheiny yn eich lleoliad eich hun.

Child Paces Learning

Galluogi’r ymarferydd i ddatblygu syniadau, sgiliau a hyder wrth ddarparu elfennau craidd o ddarpariaeth chwarae y tu allan.

Mae’r modiwl ‘Creu profiadau cyfoethog y tu allan’ wedi’i ddylunio i roi’r hwb cyntaf i chi ddatblygu eich darpariaeth y tu allan fel ei fod yn troi’n amgylchedd sydd wirioneddol yn galluogi plant ifanc i fod mor chwilfrydig a rhyngweithiol fel ag y maen nhw i fod: yn gofyn eu cwestiynau eu hunain ac yn dilyn eu chwilfrydedd arbennig eu hunain; gan ddysgu o’r byd go iawn a phobl eraill; ac yn datblygu’r seiliau cywir ar gyfer hapusrwydd a llwyddiant drwy gydol eu bywydau.

Boy with cable

Mae’r rhan hon o’r Dystysgrif yn ymwneud â meithrin posibiliadau gwirioneddol lleoliad llawn natur y tu allan, er mwyn ymestyn, ehangu ac ategu’r profiadau ydych chi’n eu darparu y tu mewn. Wrth fanteisio i’r eithaf ar yr hyn sy’n wahanol ac yn arbennig am y tu allan, byddwn yn canolbwyntio ar greu cyfleoedd na ellir eu darparu y tu mewn. Mae pwyslais ar ddeunyddiau a phrosesau naturiol hefyd yn dilyn awydd cynhenid plant i gysylltu â natur, gan feithrin perthynas ddofn gyda’r byd natur.

20160404232920 b37f6d4c

Drwy’r cynhwysion cyfannol a llawn cyfoeth sy’n cael eu darparu ac sy’n cael eu harchwilio yn y modiwl hwn, bydd plant yn cael eu hannog i ryngweithio, rhyfeddu, archwilio, ymchwilio, profi, darganfod, datblygu eu theorïau eu hunain, dychmygu, arloesi, creu, ymlacio, datblygu perthnasau ac, yn bwysig, creu atgofion a fydd yn aros gyda nhw am weddill eu bywydau - yn union fel bo atgofion o’n profiadau ni o chwarae y tu allan wedi aros gyda ni.

Umbrella/ Water play

Cael profiad

Dros bedair uned o sesiynau manwl, drwy brofiad y tu allan, byddwch yn cael cyflwyniad i’r wyth ‘cynhwysyn’ gorau sydd gan amgylchedd y tu allan i’w cynnig, gan eich syfrdanu gyda’r amrywiaeth anhygoel o gyfleoedd gwych y mae modd i gynhwysion craidd darpariaeth y tu allan eu cynnig mewn unrhyw ofod y tu allan, dim ots pa mor ddiawen ydi o ar hyn o bryd. Wrth gael digon o amser i archwilio a chwarae gyda phob cynhwysyn eich hun, mewn grŵp bychan gydag ymarferwyr eraill, byddwch yn gallu hel syniadau, datblygu sgiliau, rhannu cwestiynau a barn, siarad drwy bethau ac ennill hyder wrth gynnig yr elfen hon o’r ddarpariaeth yn eich lleoliad eich hun gan fanteisio i’r eithaf ar yr hyn y mae’n ei gynnig i’ch plant.

Building Beds Outdoors

Mae pob cynhwysyn yn arbennig o gyfoethog ar ei ben ei hun, ond wrth roi mwy nag un at ei gilydd, maen nhw’n gweithio gyda’i gilydd i gynnig dewislen di-ben-draw o bosibiliadau ar gyfer darganfod a chyfleoedd ar gyfer dysgu!

Ar gyfer bob cynhwysyn, byddwch yn gallu archwilio a phrofi amrywiaeth o ddeunyddiau ac adnoddau er mwyn cychwyn eich taith o ddatblygu’r agwedd hon o’ch darpariaeth yn eich gofod y tu allan eich hun.

Playing with rocks

Edrych yn fwy manwl

Mae’r sesiynau y tu mewn cysylltiedig, wedi cael eu strwythuro o amgylch dadansoddi a thrafodaeth grŵp er mwyn manteisio i’r eithaf ar yr amrywiaeth syfrdanol o ran dysgu a datblygu y mae modd i bob agwedd ar ddarpariaeth y tu allan eu hysgogi a’u cefnogi. Wrth i blant archwilio a darganfod eu cwricwlwm personol eu hunain drwy bob cynhwysyn, bydd ein trafodaethau ni’n eich helpu ni i ddeall sut gellir defnyddio eich fframwaith statudol eich hunain i gefnogi taith bob plentyn o ran antur a darganfod. Bydd y trafodaethau hyn hefyd yn archwilio rolau a rhyngweithiad oedolion wrth gynnig profiadau ac ymateb i’r hyn y mae plant yn ei wneud gyda nhw, ac ystyried sut bo fframwaith y cwricwlwm sy’n arwain eich arferion yn gweithio’n ymarferol gyda darpariaeth y tu allan er mwyn galluogi llwybr unigol bob plentyn i ddysgu a datblygu.

Play with copper pots

Rhoi’r Gwaith ar Waith

Er mwyn ennill y Dystysgrif Bod y Tu Allan, Modiwl 1, bydd y cymhwyster yn canolbwyntio ar eich annog chi i ddefnyddio’r ddealltwriaeth ydych chi wedi’i hennill drwy weithredu rhai o’r cynhwysion yn eich lleoliad eich hun, gan arddangos sut rydych chi wedi gwneud hynny. Byddwn yn eich arwain i ymgymryd ag astudiaethau ychwanegol eich hunain drwy ddeunydd darllen disgwyliedig ac sy’n cael eu hargymell, gwylio clipiau fideo o blant yn chwarae ac oedolion yn cael y cyfle i gael profiad o adnoddau eraill, a’u harchwilio. Rydym yn eich annog chi i gadw portffolio i drefnu’r hyn y byddwch yn ei ddarganfod, gan gynnwys llyfr i gofnodi eich syniadau, eich barn a’ch camau gweithredu.

Girl with bags