Outdoors Thinking

P1000143
Modiwl 2

Tystysgrif Bod y Tu Allan – Lefel 3

Cefnogi dysgu y tu allan

I archebu lle ar gwrs Cymraeg cysylltwch ag eunice.jones@meithrin.cymru

Modiwl 2: Cefnogi dysgu y tu allan

Gan ddatblygu ar y dysgu o’r Modiwl blaenorol, mae’r cam hwn o’r cymhwyster yn talu sylw manwl i wneud yn siŵr bod yr amgylchedd sy’n cael ei ddarparu yn cynnal natur arbennig y tu allan i’w lawn botensial ac yn bodloni’r ffyrdd y mae plant wedi cael eu dylunio i archwilio a darganfod pethau yn eu blynyddoedd cynnar. Rydym yn archwilio dulliau dysgu naturiol plentyndod cynnar yn fanwl ac yn gweithio i drosglwyddo’r rhain i arferion gwirioneddol drwy ddatblygu eich swyddogaeth addysgol chi.

Galluogi’r ymarferydd i ddeall a chredu mewn dysgu drwy chwarae y tu allan

Datblygu hyder a sgiliau wrth wneud defnydd da o’r natur unigryw a gwahanol o ddysgu drwy chwarae y tu allan

Jumping in puddle Water play

Gan ddatblygu ar ran flaenorol y cwrs, oedd yn archwilio’r prif ffyrdd y gallwch ddatblygu eich amgylchedd y tu allan, canolbwynt Modiwl 2 yw y plentyn a’r hyn y mae plant yn eu dysgu Mae’n archwilio’r hyn rydym ni’n ei wybod am sut mae plant ifanc angen mynd o gwmpas archwilio a gwneud synnwyr o’r byd maen nhw’n byw ynddo - hynny yw, sut mae plant ifanc yn dysgu orau.

Un o’r prif resymau pam y dylem ni fynd â’r dysgu y tu allan yw ei fod yn grymuso plant ifanc i ddarganfod a deall yn y ffordd maen nhw wedi cael eu dylunio drwy esblygiad: drwy ryngweithio wedi’i ysgogi eu hunain, yn ymarferol, yn chwareus a drwy ryngweithio gweithgar yn y byd go iawn. Byddwn yn archwilio pam mai’r tu allan, gyda’i natur a’i nodweddion arbennig ei hun, yw’r man delfrydol ar gyfer dysgu a datblygu yn y blynyddoedd cynnar - a sut y gall dysgu ddod yn gymaint mwy effeithiol a llawn boddhad i blant ifanc pan fyddwn yn gweithio gyda’r nodweddion hynny.

Placing Cones

Mae’r elfen hon o’r Dystysgrif wedi cael ei dylunio i’ch cefnogi chi i fanteisio i’r eithaf ar gynhwysion y ddarpariaeth y tu allan yr ydych chi wedi’i datblygu, drwy sylweddoli’r gwahaniaethau rhwng bod y tu mewn a’r tu allan. Drwy ddyfnhau eich dealltwriaeth am sut y mae plant ifanc angen mynd o amgylch eu dysgu, byddwch yn gallu gwella’r ffyrdd rydych chi’n galluogi, annog a chefnogi eich plant i ryngweithio gyda’r ddarpariaeth rydych chi’n ei chynnig y tu allan.

P1000143

Cael profiad

Bydd pedair uned o sesiynau manwl, drwy brofiad y tu allan yn archwilio bob mecanwaith ganolog i ddysgu cynnar - sut mae meddyliau, cyrff ac ysbryd plant ifanc yn gweithio mewn ffordd unedig i gysylltu’n ddwfn gyda’u byd nhw a datblygu’r gallu i feddwl amdano.

Drwy archwilio bob un o’r dulliau dysgu naturiol hyn eich hunain yn ymarferol, byddwch yn gallu deall sut mae hyn yn teimlo ac yn gweithio i’r plant ifanc rydych chi’n eu cefnogi. Bydd gweithio mewn grwpiau bach gydag ymarferwyr eraill, yn golygu y byddwch yn gallu rhannu barn a phryderon, clywed syniadau, dysgu’n anffurfiol gan eraill a datblygu eich hyder a’ch sgiliau eich hun i’w treiddio’n ôl i’ch arferion eich hunain.

Mae llawer iawn o bethau i blant ifanc eu darganfod am y byd ffisegol a’r byd dynol, ac wrth wraidd hyn mae’r angen i ddarganfod gwybodaeth amdanynt eu hunain a sut maen nhw’n rhan o’r byd hwn. Mae plant yn llawn chwilfrydedd a dulliau hunan-ysgogol; felly, yn hytrach nag ‘addysgu’ ein swyddogaeth ni yw grymuso’r mecanweithiau dysgu hyn i weithredu hyd eithaf eu gallu.

Girl hammering hut

Gan weithio mewn grwpiau bach i ennill teimlad ddofn o’r ffordd y bydd y modd hwn o ddysgu yn gweithio i blant ifanc.

Ar gyfer bob mecanwaith dysgu, byddwch yn gallu archwilio amrywiaeth o ffyrdd i annog hyn drwy ddarpariaeth ac arferion y tu allan.

Training (Adults)

Edrych yn fwy manwl

Mae sesiwn gyfatebol ynghlwm wrth bob sesiwn drwy brofiad, yn archwilio faint mae plant yn ei ddysgu drwy archwilio a chwarae mewn amgylchedd ysgogol y tu allan a faint maen nhw’n datblygu eu hymennydd a’u gallu i feddwl wrth wneud hynny.

Bydd y sesiynau hyn yn sôn am sut mae natur unigryw amgylchedd y tu allan mor addas i gefnogi bob modd dysgu cynnar a naturiol, a bydd yn hawdd gweld bod y ffordd y mae angen i blant ddysgu = y ffordd y gall y tu allan gynnig awyrgylch ddysgu gwych.

Bydd cyfuno sut mae plant ifanc yn dysgu gyda sut mae’r tu allan yn gweithredu wrth alluogi dysgu hefyd yn ysgogi trafodaeth am sut gall ymarferwyr helpu’r amgylchedd y tu allan i weithio orau i’r plant. Wrth gael ein harwain gan eich fframwaith statudol, byddwn yn ystyried sut mae cyweiriad, ymddygiad, cyfathrebiad, rhyngweithiad a pharatoi ymatebol oedolion yn sicrhau bod dysgu drwy chwarae yn cael ei wneud fwyaf effeithiol.

Girl making fire

Rhoi’r Gwaith ar Waith

Mae’r modiwl hwn wedi’i ddylunio i’ch galluogi chi i weithio gyda natur arbennig y tu allan i greu amgylchedd dysgu cynnar pwerus sy’n gweddu’n dda gyda’r ffordd mae plant ifanc wedi’u dylunio i ddysgu’n naturiol. Mae gweithredu’r rhan hon o’r modiwl yn ymwneud â datblygu ‘cynhwysion’ eich darpariaeth y tu allan ymhellach drwy ddefnyddio’r meddylfryd a’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu - gan arddangos sut rydych chi wedi gwneud hyn ac adlewyrchu ar yr hyn ydych chi’n ei weld yn digwydd o ganlyniad i hynny.

Yn yr un modd â Modiwl 1, dylai’r elfen hon o’r cwrs fod yn llawn mwynhad ac yn ddefnyddiol yn ymarferol, gan weddu â’r ffordd rydych chi’n meddwl ac yn dysgu. Felly, bydd cyflwyniadau’n cael eu gwneud ar-lein drwy ein llwyfan Outdoors Thinking a gallant gael eu gwneud ym mha bynnag ffordd sy’n gweithio orau i chi a’ch lleoliad.

Bucket play