Location
This course takes place here:
Canolfan Plant Llangefni
Ffordd y Coleg Talwrn Rd,
Llangefni
LL77 7LP
Delivered in Welsh by Mudiad Meithrin
I archebu lle ar gwrs Cymraeg cysylltwch ag eunice.jones@meithrin.cymru. Contact eunice.jones@meithrin.cymru for opportunities to participate on this course.
This course takes place on the following dates:
This course takes place here:
Canolfan Plant Llangefni
Ffordd y Coleg Talwrn Rd,
Llangefni
LL77 7LP
Mae’r cwrs wedi cael ei ddylunio’n benodol i ymestyn dealltwriaeth ac arbenigedd unrhyw un yn y sector blynyddoedd cynnar sydd ag o leiaf 3 blynedd o brofiad o weithio gyda phlant ifanc rhwng 2 a 6 oed. Bydd angen i chi feddu ar wybodaeth a dealltwriaeth cadarn o ddatblygiad plentyn ac arferion y blynyddoedd cynnar, ynghyd â diddordeb brwd mewn gweithio y tu allan.
Er mwyn cyflawni’r cymhwyster, bydd angen i chi allu gweithredu newidiadau mewn lleoliad y blynyddoedd cynnar; felly, bydd angen i chi fod yn gweithio fel gwarchodwr plant, bod mewn swydd ymgynghorol neu’n gweithio neu’n gwirfoddoli mewn lleoliad y blynyddoedd cynnar neu ddosbarth y blynyddoedd cynnar mewn ysgol.
Gall y cynllun amser am sut y cyflwynir y cwrs amrywio’n dibynnu ar bwy sy’n comisiynu’r cwrs.
Byddai enghraifft o derfynau amser safonol ar gyfer cyflwyno’r wobr lawn yn golygu un diwrnod hyfforddiant y mis, ac yna dychwelyd i’ch sefydliad i weithredu’r wybodaeth a’r profiad newydd a gafwyd Drwy hyn, byddech yn cyflawni modiwl bob 4 mis, ac yn cwblhau’r dystysgrif gyfan dros 12 mis.
Wrth ddefnyddio dull hyfforddi, mae’r cwrs yn eich cefnogi chi i ddatblygu sail gadarn o ddealltwriaeth a chymhwysedd yn raddol, mewn ffordd tymor hir, cynyddol a fesul haenau. Mae’r strwythur cam wrth gam yn gadael i chi ddatblygu eich arbenigedd eich hun, yn raddol, drwy’r flwyddyn, gan ddarparu dull araf, rheolaidd a hylaw.
Gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau drwy brofiad a sesiynau trafod, dadansoddi ac astudiaeth wedi’i dywys, byddwch yn cael eich cefnogi i fynd i’r afael â phethau eich hun. Bydd arsylwi, gweithredu a gwerthuso gofod y tu allan eich lleoliad yn feirniadol, yn sicrhau bod dealltwriaeth newydd yn dod yn rhan o’ch arferion eich hun, a’u bod yn cael eu cynnal. Ein nod yw bod yr hyfforddiant hwn yn gweithio i bawb, ac y bydd yn cynnwys datblygu darpariaeth ac arferion y tu allan eich lleoliad eich hun.
Bwriad - pwrpas y cymhwyster yw eich arwain chi i:
Gweithredu - yn ystod y cwrs, byddwch yn:
Effaith - erbyn diwedd y flwyddyn:
Mae’r cymhwyster yn canolbwyntio ar gynnwys, mae’n ymgorffori dysgu’n weithgar ac yn cefnogi cydweithio a datblygu’n raddol. Mae’r cwrs yn:
Mae’r Dystysgrif Bod y Tu Allan gan Outdoors Thinking yn meddu ar ddull gweithredu galluogol gyda’r effeithiau a’r canlyniadau parhaus a ganlyn i ymarferwyr, rheolwyr a lleoliadau:
Fy hoff eiliadau oedd gwneud pasteiod mwd a dod o hyd i bob math o adnoddau naturiol i’w defnyddio fel bwyd yn fy Nhŷ Bach Twt a chwilota am fadfallod dŵr a phenbyliaid yn y nant gul.
My favourite moments were making mud pies and finding all sorts of natural resources to use as food in my Ty Bach Twt and rummaging for newts and tadpoles in the narrow stream.
Siaradus, Wacky, Meddwl agored.
Talkative, Wacky, Open minded
Mae’r Awyr agored yn deimlad o le ac ystafell i anadlu
I love the outdoors because of the feeling of space and room to breathe.
cyffrous, boddhad, gwerthfawr
exciting, fulfilling, precious